Talu eich anfonebau yn gynnar ar y rhaglen FastTrack

Mae Cyngor Sir y Fflint yn eich gwahodd chi i ddod yn aelod o’i raglen talu’n gynnar gyflym, deg a diffwdan

Gofyn am alwad

Please enter your name
Please enter your company name
Please enter a valid phone number

Ffordd unigryw o gael eich talu'n gynnar

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig taliad cynt heb ddim ffactorio, dim benthyca, dim gwiriadau credyd a dim prosesau cymhleth.

Taliad cynt

Prosesu anfonebau’n gyflym a chysylltiadau pwrpasol ar gyfer yr adegau pan fyddwch angen cysylltu.

Prisiau teg a thryloyw

Dim costau cofrestru na gweinyddol, dim ond ffi ganrannol fechan yn cael ei thynnu o bob anfoneb yn seiliedig ar ba mor fuan y cewch eich talu.

Cofrestru di-ffwdan

Ymuno mewn 2 funud, heb waith ychwanegol i ddechrau arni. Taliad cynnar, syml, dyna’r cyfan.

Mae eich cyfranogiad yn bwysig i ni

Mae'r rhaglen yn adlewyrchu'r ffordd flaengar y mae'r Cyngor eisiau gweithio gyda'i gyflenwyr, gan hefyd ganiatáu iddynt ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol a rhai sydd wedi’u tanariannu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich bod yn cymryd rhan.

You benefit from improved cashflow and reduced time spent chasing payments

Margaret Parr-Jones
Hwylusydd Trosolwg a Craffu

Ffordd well o wneud busnes gyda Chyngor Sir y Fflint

Llif arian iachach

Arian yn barod i chi gael gafael arno heb unrhyw fenthyca, dim gwiriadau credyd a dim gwarantau personol i boeni amdanyn nhw.

Gydag arian yn eich cyfrif yn gynt, chi sy’n rheoli eich arian eich hun.

Mynediad at arian y gallwch ei fuddsoddi mewn meysydd eraill o’ch busnes.

Tawelwch meddwl

Gyda thaliadau cynnar dibynadwy, does dim angen poeni am eich alldaliadau misol.

Dim mwy o fynd ar ôl anfonebau hwyr neu goll, yn colli oriau gwerthfawr staff yn eich busnes.

Cymorth cyflenwyr pwrpasol wedi'i leoli yn y Cyngor ar gael i helpu pryd bynnag y mae ei angen arnoch.

Perthynas waith well

Gyda llai o ymholiadau am dalu anfonebau, mae mwy o amser i siarad am y pethau sy'n bwysig i'ch busnes

Cewch ddod yn gyflenwr FastTrack cydnabyddedig, gan godi proffil eich busnes yn y Cyngor

Byddwch ar ochr eich cwsmer a dod yn rhan o fenter bwysig sy’n helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol ar gyfer y gymuned leol

Sut mae taliad cynnar wedi helpu busnesau eraill

Cewch weld drosoch chi eich hun a chlywed beth mae busnesau eraill fel chi wedi ei ddweud am y rhaglenni taliad cynnar a sut maen nhw wedi helpu eu busnesau nhw.

Mae bod yn rhan o’r rhaglen wedi ein galluogi i ganolbwyntio ar dwf. Rydym yn buddsoddi mwy o amser i atynnu trigolion a staff newydd yn hytrach na mynd ar ôl anfonebau.

Sut ydyn ni’n cymharu ag opsiynau ariannu eraill?

Mae FastTrack yn cynnig taliad cynharach yn gyfnewid am ffi ganrannol fach a dynnir oddi ar werth yr anfoneb, i dalu cost y rhaglen. Er mwyn sicrhau ei bod yn deg, mae’r ganran yn newid yn ôl faint o ddiwrnodau’n gynt mae’r taliad yn cael ei wneud: os nad yw’n cael ei dalu’n gynt, does dim ffi.

Rhaglen taliad cynnar

Dim

Na

Wedi’i gymeradwyo’n flaenorol

Cofrestru mewn dau funud

Dim

Dim dyled, llog, risg o fethu ad-daliadau nac yn effeithio ar eich statws credyd

Ffi % ddeinamig yn cael ei thynnu o bob anfoneb gan ddibynnu ar faint o ddiwrnodau’r gynt mae’r taliad yn cael ei wneud

Ffactorio anfonebau

Ffioedd gwasanaeth misol

Ffioedd taliad cynnar

Ffioedd trefnu

Dibynnu ar ddarparwr

Asesiad risg yn seiliedig ar ystod o ffactorau, gan gynnwys cyfaint a maint eich anfonebau, telerau'r taliad, hanes eich cwmni a hanes blaenorol

Os na fydd cleientiaid yn talu, gallech orfod prynu anfonebau’n ôl

Os nad yw’r cwmni’n cyd-fynd â gwerthoedd eich cwmni chi, gallai effeithio ar eich enw da

Gostyngiad y cytunwyd arno ymlaen llaw yn cael ei gymryd o bob anfoneb - fel arfer rhwng 0.5% a 5% o'r swm a fenthycir

A thaliadau gwasanaeth ar ben hynny

Benthyciad busnes

Ffioedd taliad hwyr

Ffi weinyddu

Oes – cyn ymgeisio

Gall taliadau a fethwyd gronni a chael eu nodi ar eich hanes credyd

Bydd benthycwyr yn edrych ar eich statws credyd ac yn asesu eich ffurflenni treth busnes a phersonol, datganiadau banc, datganiadau ariannol a dogfennau cyfreithiol

Gall cost methu taliad arwain at ffioedd a gall effeithio'n negyddol ar eich statws credyd

Gallai benthyciad hirdymor gyfyngu ar yr arian parod misol

Mae cyfraddau llog yn amrywio, ond fel arfer mae’r gyfradd ganrannol flynyddol rhwng 5% a 10%

A ffioedd taliad hwyr ar ben hynny

Cerdyn credyd Busnes

Ffioedd taliad hwyr

Ffi weinyddu

Ffioedd anweithgarwch

Tynnu arian parod

Oes – cyn ymgeisio

Gall taliadau a fethwyd gronni a chael eu nodi ar eich hanes credyd

Bydd benthycwyr yn edrych ar eich statws credyd a gwiriadau eraill yn dibynnu ar faint a chryfder ariannol eich busnes

Gall methu taliadau arwain at ffioedd a gall effeithio'n negyddol ar eich statws credyd

Mae rhai busnesau yn gwrthod taliadau gyda cherdyn

Mae cyfraddau llog yn amrywio, ond fel arfer mae’r gyfradd ganrannol flynyddol rhwng 15% a 20%

A ffioedd taliad hwyr ar ben hynny

Yma i helpu

A yw’r rhaglen yn orfodol?

Nac ydy, egwyddor craidd FastTrack yw ei fod yn deg i bawb. Mae hyn yn golygu mai menter wirfoddol ydyw, y gwahoddir cyflenwyr i ymuno â hi.

A oes cost i ymuno?

Mae’n rhad ac am ddim i ymuno â’r rhaglen. Does dim taliadau gwasanaeth, ffioedd gweinyddu na thaliadau cudd. Tynnir ffi ganrannol fach o bob anfoneb yn seiliedig ar nifer y diwrnodau y cyflymir eich taliad.

Sut mae’r ffi ddeinamig yn gweithio?

I dalu cost y rhaglen, mae ffi ganrannol fach yn cael ei thynnu o bob anfoneb. Gelwir y ffi yn Ad-daliad Taliad Cynnar. Mae’r Ad-daliad Taliad Cynnar yn ddeinamig, sy’n golygu bod y swm yn dibynnu ar werth yr anfoneb a nifer y diwrnodau y cyflymir eich taliad.

Ai ffactorio anfonebau yw hyn?

Na, nid yw’r rhaglen yn ffurf o ffactorio. Nid yw eich anfonebau yn cael eu gwerthu i drydydd parti, a bydd pob taliad yn parhau i ddod yn unionyrchol gan Gyngor Sir y Fflint.

Sut y bydd taliad cynnar yn effeithio ar y broses cyflwyno anfoneb?

Byddwch yn parhau i gyflwyno eich anfonebau’n electronig fel arfer, ond i gyfeiriad e-bost newydd. Cewch eich talu gan Gyngor Sir y Fflint pan gaiff y taliad ei awdurdodi, yn hytrach nag aros am ddyddiad y mae’r taliad yn ddyledus.

Sut fydda i’n gwybod faint sydd wedi’i godi arnaf i?

Mae'r broses dalu yn dryloyw a bydd y wybodaeth berthnasol (y ffi ganrannol a nifer y diwrnodau y cyflymir eich taliad) yn cael ei chyhoeddi ar nodyn debyd ochr yn ochr â'ch taliad.

A fydd fy Nhelerau ac Amodau presennol yn newid?

Dim ond amrywio telerau talu eich contractau fydd telerau ac amodau’r rhaglen FastTrack. Fel arall, bydd eich contractau’n parhau i fod yn gwbl weithredol.

Pwy yw Oxygen Finance?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth gydag Oxygen Finance fel yr arbenigwyr blaenllaw ar ddarparu gwelliannau i'r broses dalu i swyddfeydd caffael y llywodraeth ac i wneud y gorau o'i berfformiad talu drwy ymgynghoriaeth, ymgysylltu â chyflenwyr a thechnoleg.

Mae Oxygen Finance wedi cofrestru dros 16,000 o gyflenwyr i raglenni taliad cynnar Cleientiaid, gyda gwerth dros £5.5bn o anfonebau yn derbyn taliad cynnar